Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2021
Amser: 09.03 - 09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes drefniadau diogelwch ar gyfer protestiadau posibl y prynhawn yma ynghylch y diwygiad diweddaraf i Reoliadau Coronafeirws, yn ymwneud â'r estyniad arfaethedig o basys Covid-19 i gynnwys lleoliadau ychwanegol.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2021 -
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddariad ar y Comisiwn Cyfansoddiadol (30 munud)
Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021 -
·
LCM ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad (Rhent Tir) (15 munud) - gohirio tan 7 Rhagfyr
Cadarnhaodd y Trefnydd fod y Rheoliadau y cynigir eu grwpio ar gyfer un ddadl ar 30 Tachwedd i gyd yn ymwneud â sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021
4 Rheolau Sefydlog
4.1 Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Tachwedd 2021.
5 Unrhyw faterion eraill
Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau - y DU.
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at yr Aelodau a gynigwyd i'w henwebu, i drafod eu dewisiadau.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Pwyllgor Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ar 5 Tachwedd, a bod y ddadl ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n ymwneud â'r Bil hwn wedi'i threfnu ar gyfer 30 Tachwedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad, sef 25 Tachwedd.